Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Mai 2020
Amser:
14.03 -
16.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6096
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS Janet Finch-Saunders AS Siân Gwenllian AS |
Tystion: |
Sarah Crawley, Barnardo's Cymru Vivienne Laing, NSPCC Cymru Louise Israel, Childline Cymru Marian Parry Hughes, Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan Sally Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – Cyngor Dinas Casnewyd Craig McLeod, Uwch Reolwr Plant a'r Gweithlu – Cyngor Sir y Fflint Jan Coles, Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys Jane Randell, Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Craig McLeod, Cyngor Sir y Fflint |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Phil Boshier (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei chyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan NSPCC Cymru, Barnardo’s a Childline.
2.3 Cytunodd NSPCC Cymru i ddarparu rhagor o fanylion am y tueddiadau o ran galwadau i’r llinell gymorth.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn flaenorol.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan benaethiaid gwasanaethau plant a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
5.2 Cytunodd y penaethiaid gwasanaethau plant i ddarparu rhagor o wybodaeth am y cyswllt rheolaidd rhwng awdurdodau lleol a phlant a phobl ifanc yn eu hardaloedd.
6.1 Cafodd y papur ei nodi.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn flaenorol.
8.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am y canlynol:
- i gael gweld y data a gyflwynir gan y gwasanaethau plant i Lywodraeth Cymru yn wythnosol; a
- rhagor o fanylion am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod plant nad yw’r gwasanaethau’n ymwybodol ohonynt ond sy’n agored i niwed, neu o bosibl yn agored i niwed, yn cael gwybodaeth am y ffyrdd gorau o gael mynediad at gymorth.